Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am dagu plismon i farwolaeth tra roedd yn cael rhyw.

Roedd Stefano Brizzi, 50, wedi cyfaddef iddo gael ei ysbrydoli gan y gyfres deledu Breaking Bad ar ôl iddo geisio cael gwared a chorff y Cwnstabl Gordon Semple, 59 oed, drwy ei roi mewn bath o asid.

Yn yr Old Bailey fis diwethaf, cafwyd Brizzi yn euog o lofruddiaeth.

Roedd Brizzi wedi gwadu iddo geisio bwyta rhannau o gorff Gordon Semple ar ôl i asen gael ei ddarganfod yn y bin sbwriel yng nghegin ei fflat yn Llundain.

Ond wrth iddo gael ei ddedfrydu heddiw, dywedodd yr erlyniad bod arbenigwr wedi cadarnhau bod Brizzi wedi ceisio bwyta cnawd dynol, er bod Brizzi yn honni nad oedd yn cofio gwneud hynny.

Fe fydd yn rhaid i Stefano Brizzi, sy’n gaeth i crystal meth, dreulio isafswm o 24 mlynedd yn y carchar, meddai’r Barnwr Nicholas Hilliard QC.

Cafodd Brizzi hefyd ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar am geisio atal crwner.

Clywodd y llys bod Gordon Semple wedi ymuno a’r heddlu yn 1993 a’i fod wedi gwasanaethu am fwy na 30 mlynedd.

Roedd wedi cwrdd â Brizzi drwy’r wefan Grindr ar gyfer pobl hoyw ac roedd y ddau wedi trefnu i gwrdd yn fflat Stefano Brizzi yn Llundain ar 1 Ebrill.

Roedd partner Gordon Semple, Gary Meeks, wedi cysylltu â’r heddlu ar ôl iddo fethu a dychwelyd i’w cartref yn Dartford, Caint.

Aeth yr heddlu i gartref Brizzi ar ôl i gymdogion gwyno am yr arogl oedd yn dod o’i fflat.

Yno, daethon nhw o hyd i rannau o gorff y plismon.