Cyfrol Gwynfor Jones (Llun: Y Lolfa)
Mae awdur o Aberystwyth wedi casglu hanesion pob un o chwaraewyr pêl-droed Cymru sydd wedi ennill cap i’r wlad ers 1946.

Ond nid ymateb i “lori lwyddiant” ymgyrch Cymru yn yr Ewros eleni oedd bwriad yr awdur, Gwynfor Jones, sydd wedi gweithio ar y gyfrol ers mis Chwefror 2015.

“Aeth chwarter canrif heibio ers cyhoeddi Who’s Who of Welsh International Soccer Players roddodd sylw i’r cyfnod 1876-1991,” eglurodd.

“Meddyliais ei bod yn hen bryd inni gael llyfr newydd a hynny yn y Gymraeg er mwyn cadw’r cof yn fyw am y chwaraewyr sydd wedi cyfoethogi ein gêm genedlaethol ac a gyfrannodd at osod y seiliau ar gyfer ein llwyddiant yn Ewro 2016,” meddai wedyn.

331 o chwaraewyr

Mae’r gyfrol yn portreadu hanes 331 o chwaraewyr pêl-droed Cymru rhwng 1946 a 2016, ac mae ganddo restr gyflawn hefyd o’r 460 o’r gemau a chwaraewyd yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

“Cymerais 1946 fel man dechrau oherwydd mai dyna pryd yr ailddechreuwyd gemau ffurfiol wedi’r Ail Ryfel Byd, ac ymddangosai 2016 yn le da i orffen, sef pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 140 oed,” meddai Gwynfor Jones.

Ag yntau wedi cefnogi tîm pêl-droed Cymru ers 1955 dywedodd mai brith gof sydd ganddo o ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 ond “roeddwn i wrth gwrs ar ben fy nigon o weld llwyddiant y tîm eleni.”

Bydd ei gyfrol Crysau Cochion – Chwaraewyr Pêl-droed Cymru 1946-2016 yn cael ei lansio yn Siop y Pethe, Aberystwyth nos Fercher Rhagfyr 14 am 5.30 yng nghwmni Lyn Ebenezer.