Pointsettia (Llun: Wikimedia Commons)
Mae perchennog cath a gafodd ei gwenwyno gan pointsettia wedi rhybuddio am beryglon y planhigyn Nadoligaidd i anfeiliaid.

Yn ôl Tara Christmas, cafodd ei chath Elsa ei tharo’n wael y Nadolig diwethaf ar ôl bod yn cnoi dail y planhigyn ar Ddydd Nadolig.

Ar y pryd, doedd hi ddim yn sylweddoli bod y planhigyn yn gallu gwenwyno anifeiliaid.

Dywedodd y ddynes 27 oed o Rotherham: “Ces i’r planhigyn yn rhodd ac ro’n i wedi’i roi e ar y bwrdd, ond wnes i sylwi bod y dail yn cael eu cnoi.

“Ro’n i’n ei symud o hyd ond byddai Elsa’n dod o hyd i ffordd o’i gyrraedd eto. Doedd gen i ddim syniad ei fod yn wenwynig, felly pan ddechreuodd Elsa gyfogi a mynd yn anymwybodol, do’n i ddim yn gwybod beth oedd yn achosi hynny.”

Cysylltodd hi â’r PDSA a chadarnhaodd milfeddyg ar ôl cynnal profion fod Elsa wedi cael ei gwenwyno.

“Aeth y pointsettia yn y bin yn syth, wrth gwrs, a dw i’n checio’n ofalus iawn cyn dod ag unrhyw flodau neu blanhigion i mewn i’r tŷ nawr.”

Mae’r PDSA yn apelio ar bobol i decstio STAR at 70025 er mwyn cyfrannu £5 at apêl y Nadolig.