Mae llanc 17 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dau ddyn 32 a 18 oed yn Ipswich.

Dydy’r llanc ddim wedi cael ei enwi, ond fe fydd e’n ymddangos gerbron ynadon ddydd Llun, wedi’i gyhuddo o lofruddio Barry Street a Nathan Oakley, fu farw ddydd Iau ar ôl cael eu trywanu.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.