Heddlu gwrth-frawychiaeth Llundain Llun: PA
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau brawychol, meddai’r heddlu.

Cafodd y dyn, 23, ei arestio yn nwyrain Llundain gan dditectifs o adran wrth-frawychiaeth yr Heddlu Metropolitan fore dydd Mawrth.

Dywedodd Scotland Yard ei fod wedi’i arestio tua 6.25yb ar amheuaeth o annog brawychiaeth a lledaenu cyhoeddiadau brawychol.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn nwyrain Llundain ac mae ymholiadau’r heddlu’n parhau.