Andrew Sachs yn arwyddo llofnod yn 2004 (Squidney Phill Chappell CCA2.0)
Mae wedi dod yn amlwg bod yr actor, Andrew Sachs- y cymeriad Manuel yn rhaglenni comedi Fawlty Towers – wedi marw yn 86 oed.

Yn ôl adroddiadau, cafodd y perfformiwr a ddihanogdd o’r Almaen adeg y rhyfel, ei gladdu ddydd Iau ar ôl bod yn dioddef o ddementia  ers pedair blynedd. Roedd wedi marw mewn cartref gofal wythnos ynghynt.

Er mai dim ond 12 pennod o Fawlty Towers oedd yna, fe ddaeth yn enw cyfarwydd i bawb wrth bortreadu gweinydd diniwed yn y gwesty di-drefn.

Cleese yn cofio

Mae John Cleese, 77, a gyd-greodd y comedi yn y 1970au, wedi talu teyrnged i’r actor “annwyl a charedig”.

“Newydd glywed am Andy Sachs. Trist iawn… roeddwn yn gwybod ei fod yn cael problemau â’i gof gan fod ei wraig Melody wedi dweud wrtha’ i ychydig flynyddoedd yn ôl,” meddai ar Twitter.

“Roedd yn ddyn annwyl a charedig ac yn ffarsiwr gwirioneddol wych. Fe wnes i ei weld gyntaf ar y llwyfan yn 1973.

“Allwn i ddim fod wedi dod o hyd i Manuel gwell. Ysbrydoledig.”