Ni ddylai’r corff sy’n rheoli’r byd pêl-droed, FIFA gosbi Lloegr a’r Alban am wisgo’r pabi ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd, yn ôl Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, Karen Bradley.
Cafodd y ddwy wlad eu cosbi am wisgo bandiau du ar ei breichiau oedd yn cynnwys llun o’r pabi pan herion nhw ei gilydd yn Wembley ar 11 Tachwedd.
Yn ôl Karen Bradley, roedd hi’n falch o weld y ddwy wlad yn nodi’r achlysur yn y fath fodd.
Dywedodd hi wrth raglen Pienaar’s Politics ar Radio 5 Live: “Rwy’n annog FIFA i weld synnwyr yn hyn o beth â thynnu’r bygythiad o sancsiynau yn ôl.
“Mae’n ymddangos fod gwisgo pabi, os yw chwaraewr am wisgo pabi… fe ddylen nhw fod yn gallu gwneud hynny, ac fe ddylai’r cefnogwyr hefyd.”
Ond yn ôl FIFA, symbol gwleidyddol yw’r pabi ac felly mae wedi ei wahardd.
Ond aeth y ddwy wlad yn erbyn gorchymyn FIFA.
Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd wedi cael eu cosbi, er i Gymru barchu’r gwaharddiad.
Yn hytrach na gwisgo’r pabi, fe benderfynon nhw arddangos llun o’r pabi ar ffurf cardiau yn y dorf, ac fe gafodd torch o babïau ei gosod ar ymyl y cae cyn y gêm yn erbyn Serbia.
Ond fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw’n cael eu cosbi am fod cefnogwyr yn y dorf wedi gwisgo’r pabi ar eu dillad.
Fe allai holl wledydd Prydain, felly, gael eu cosbi, ac mae hynny’n golygu y gallen nhw golli pwyntiau yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2018.