Kate Gallafent QC fydd yn arwain ymchwiliad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr i honiadau bod nifer o gyn-chwaraewyr wedi cael eu camdrin yn rhywiol pan oedden nhw’n blant.

Cafodd ymchwiliad mewnol ei sefydlu yn dilyn yr honiadau yn erbyn cyn-hyfforddwr Crewe Alexandra, Barry Bennell.

Andy Woodward oedd y cyn-chwaraewr cyntaf i wneud honiadau’r wythnos diwethaf.

Ers hynny, mae nifer o gyn-chwaraewyr wedi gwneud honiadau tebyg.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr eu bod nhw’n cydweithio â’r heddlu, ac y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y wybodaeth oedd yn hysbys iddyn nhw a chlybiau ar y pryd, a pha gamau y dylid fod wedi eu cymryd ar sail y wybodaeth honno.

Mae heddluoedd Llundain, Swydd Hampshire, Swydd Northumbria a Sir Gaer yn ymchwilio i gyfres o honiadau.

Cafodd rhai achosion eu hadrodd wrth linell gymorth NSPCC, a dderbyniodd dros 50 o alwadau o fewn dwy awr ar y diwrnod cyntaf y cafodd ei sefydlu.

Mae Barry Bennell wedi cael ei garcharu dair gwaith am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Roedd yn hyfforddwr gyda Crewe Alexandra, Man City, Stoke a nifer o glybiau ieuenctid yng ngogledd a chanolbarth Lloegr o’r 1970au hyd at y 1990au.

Ymhlith y cyn-chwaraewyr sydd wedi gwneud honiadau yn ei erbyn mae David White, Jason Dunford, Steve Walters a Chris Unsworth.

Mae Paul Stewart, cyn-chwaraewr Lloegr, hefyd wedi dweud ei fod e wedi cael ei gamdrin pan oedd e’n blentyn.

Mae honiadau hefyd wedi cael eu gwneud yn erbyn cyn-hyfforddwr Newcastle, George Ormond, a gafodd ei garcharu yn 2002.

Mae Crewe Alexandra yn cynnal ymchwiliad mewnol i’r honiadau yn erbyn Barry Bennell ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y clwb yn ymwybodol o honiadau yn ei erbyn pan oedd e’n cael ei gyflogi ganddyn nhw.