Mae ymosodwr Abertawe Gylfi Sigurdsson wedi disgrifio’r fuddugoliaeth o 5-4 dros Crystal Palace yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe fel “gêm ryfedda” ei yrfa.
Roedd yr Elyrch ar y blaen o 3-1 ar ôl 68 munud, ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl i sicrhau eu bod nhw ar y blaen o 4-3 gyda munudau’n unig yn weddill, cyn i’r Cymry sgorio dwy gôl yn ystod yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers diwrnod cynta’r tymor.
Sgoriodd Wilfred Zaha ar ôl 19 munud i roi’r Eryr ar y blaen, ond sgoriodd Gylfi Sigurdsson o gic rydd ar ôl 36 munud i sicrhau ei bod hi’n gyfartal ar yr hanner.
Sgoriodd y chwaraewr canol cae Leroy Fer ddwy gôl o fewn tair munud i sicrhau bod yr Elyrch ar y blaen o 3-1 ar ôl 68 munud.
Ond roedd y canlyniad yn y fantol wrth i James Tomkins daro nôl ar ôl 75 munud.
Daeth trydedd gôl yr ymwelwyr ar ôl 82 munud wrth i Jack Cork benio i’w rwyd ei hun wrth geisio clirio croesiad, ac roedd hi’n edrych yn debygol y byddai’n rhaid i’r Elyrch fodloni ar gêm gyfartal arall wrth iddyn nhw geisio symud oddi ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair.
Ond o fewn dwy funud, collodd yr Elyrch afael ar y gêm wrth i Christian Benteke rwydo i roi’r ymwelwyr ar y blaen o 4-3.
Ond yn dilyn cryn feirniadaeth o’i ffitrwydd yr wythnos hon, fe brofodd y Sbaenwr Fernando Llorente fod ei feirniaid wedi bod braidd yn hallt arno, wrth iddo rwydo ar ôl 91 munud.
Gyda’r pwynt yn edrych yn ddiogel, felly, wnaeth yr Elyrch ddim tynnu eu traed oddi ar y sbardun, ac fe ddaeth y gôl fuddugol ar ôl 93 munud, y Sbaenwr yn rhwydo unwaith eto.
‘Cymysgedd o emosiynau’
Ar ôl y gêm, cyfaddefodd Gylfi Sigurdsson ei fod e wedi teimlo “cymysgedd o emosiynau” yn ystod y gêm.
“Ry’n ni’n amlwg yn hapus gyda’r fuddugoliaeth, ond yn rhwystredig ein bod ni ar y blaen o 3-1 ac wedi colli’r flaenoriaeth i fynd ar ei hôl hi o 4-3.
“Ond fe ddangoson ni gryn gymeriad wrth daro nôl. Byddai nifer o dimau wedi rhoi’r gorau iddi pan oedd hi’n 4-3 a gadael i’r munudau lithro heibio.
“Ond wnaethon ni ddim. Roedden ni’n lwcus i’w gwneud hi’n 4-4 ac yna’n 5-4 cyn y diwedd, roedd hynny’n destun boddhad mawr.
“Dyna’r gêm ryfedda dw i wedi chwarae ynddi erioed.”
Ymateb y rheolwr
Hon oedd buddugoliaeth gynta’r rheolwr Americanaidd Bob Bradley, ar ôl iddo ddisodli’r Eidalwr Francesco Guidolin.
Fe ddywedodd e cyn y gêm y byddai ei dîm yn ennill, ond mae’n cyfaddef fod angen lwc ar ei dîm wrth gyflawni’r nod.
“Pan welais i’r gwyriad oddi ar Jack Cork i gornel dop y rhwyd, roedd eiliad pan o’n i’n meddwl bod angen ychydig o lwc ar y tîm hwn.
“Ond yn y pen draw, daeth cymeriad y chwaraewyr i’r amlwg, a dw i’n hapus iawn drostyn nhw.
“Maen nhw’n haeddu cryn ganmoliaeth.”
Ychwanegodd yr Americanwr mai dyma’r “trobwynt” yn nhymor yr Elyrch.
Ychwanegodd yr ymosodwr Fernando Llorente fod y gêm wedi bod yn “wallgof”, ond fe ddywedodd ei fod yn “hapus iawn i sgorio’r goliau er mwyn helpu’r tîm i ennill”.
Dywedodd y chwaraewr canol cae Leroy Fer fod y fuddugoliaeth yn destun “ecstasi” i’r Elyrch.