Mae cyn-arweinydd UKIP, Diane James, wedi cyhoeddi ei bod yn gadael y blaid.

Bu Diane James yn arweinydd UKIP ac yn olynydd i Nigel Farage am 18 diwrnod yn unig cyn cyhoeddi ei bod yn ymddiswyddo.

Dywedodd yn ei datganiad ei bod hi’n awr wedi gwneud cais i ddod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd annibynnol yn Senedd Ewrop.

Ychwanegodd bod ei pherthynas ag UKIP wedi dod yn “gynyddol anodd” oherwydd ei phenderfyniad i ildio’i hawenau fel arweinydd.

Ar hyn o bryd mae Paul Nuttall, Suzanne Evans a John Rees-Evans yn ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid, a bydd olynydd nesaf Nigel Farage yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 28.