Mae Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes ganddi “ran ffurfiol yn y broses” lle mae cwmni dŵr Severn Trent wedi cynnig i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy.

Er hyn mae Lesley Griffiths wedi galw am sicrwydd o ran swyddi a’r effaith ar y gymuned leol wedi i gwmni dŵr Severn Trent wedi gwneud cynnig am £78.5 miliwn.

Mae Severn Trent yn un o gwmnïau dŵr mwya’ gwledydd Prydain ac yn gobeithio prynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy sy’n darparu dŵr i tua 260,000 o gwsmeriaid yng ngogledd Cymru a Swydd Caer.

‘Swyddi a’r gymuned’

“Mae fy swyddogion, sydd mewn cysylltiad rheolaidd â’r diwydiant dŵr, yn sicrhau fy mod yn cael gwybod y diweddaraf am gynnig Severn Trent i brynu Dee Valley Group,” meddai Lesley Griffiths.

“Byddaf yn gofyn i Severn Trent am addewidion ynghylch goblygiadau’r cynnig, yn arbennig sut y bydd Severn Trent yn diogelu’r gweithlu lleol, swyddi, y gymuned a chwsmeriaid.

“Mater rhwng dau gwmni preifat yw hwn ac nid oes gen i ran ffurfiol yn y broses.  Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fydd yn delio â’r mater,” meddai’r Ysgrifennydd.

Ychwanegodd: “er nad yw cynigion cwmnïau dŵr i uno neu brynu yn faterion datganoledig, byddaf am gael addewid gan Ofwat y rhoddir ystyriaeth i bolisi Llywodraeth Cymru.”