Un o longau'r Llynges Llun: PA
Mae pwyllgor seneddol wedi rhybuddio na fyddai Llynges Prydain yn gallu gwrthsefyll unrhyw fygythiad gan fod cyn lleied o longau rhyfel.

Dywed ASau bod ganddyn nhw “bryderon difrifol” am yr arian a’r amserlen ar gyfer cyflwyno fflyd newydd o longau a fydd yn cymryd lle’r hen fflyd, sydd ar fin cael eu dad-gomisiynu.

Maen nhw’n dadlau fod angen moderneiddio’r fflyd yn sylweddol er mwyn cryfhau’r Llynges.

Mae’r Pwyllgor Dethol Amddiffyn wedi dweud y byddai cael llai na’r 19 o longau sydd gan y Llynges ar hyn o bryd yn “hollol annerbyniol” ac ni fyddai Prydain yn gallu gwrthsefyll unrhyw fygythiadau gan Rwsia, gyda “ffaeleddau difrifol” yn systemau’r llongau.

Fe ddywedodd y pwyllgor, “Man cychwyn yr adroddiad hwn ydi’n hargyhoeddiad fod y nifer presennol o longau, llongau rhyfel a staff yn annigonol, sy’n adlewyrchu’r bygythiadau sy’n wynebu gwledydd Prydain a’i buddiannau dramor.”