Mae dyn 31 oed wedi’i arestio yn Stockport ar amheuaeth o ddosbarthu deunydd terfysgol.

Fe gafodd y dyn ei ddwyn i’r ddalfa gan swyddogion gwrth-derfysgaeth o Scotland Yard a heddweision o ogledd Lloegr tua 8yb ddydd Mercher.

Mae’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu yn ardal Greater Manchester.

Mae adeilad yn Stockport yn cael ei archwilio fel rhan o’r ymchwiliad.