Mae wyth o ddynion wedi cael dedfrydau i hyd at 19 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Sheffield am ecsbloetio merch yn ei harddegau yn rhywiol yn Rotherham.
Mewn achos mis o hyd, clywodd y llys sut oedd y dynion yn ecsbloetio merched ifanc ac, mewn rhai achosion, yn eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw o “natur ddiraddiol a threisgar”.
Dywedodd un ferch a’i theulu wrth yr heddlu a’u AS ar pryd am y cam-drin ac fe symudodd y teulu i Sbaen yn y diwedd er mwyn dianc rhag y dynion.
Clywodd y llys fod y ferch wedi mynd at yr heddlu yn 2003 gan ddweud ei bod wedi cael ei threisio dro ar ôl tro gan Sageer Hussain pan oedd yn 13.
Dywedodd y Barnwr Sarah Wright, wnaeth garcharu Hussain am 19 mlynedd, ei fod wedi cynnal “ymgyrch o drais rhywiol treisgar” yn erbyn y ferch agored i niwed.
Cafodd brodyr Hussain – Arshid, Basharat a Bannaras – eu carcharu ym mis Ebrill yn dilyn erlyniad llwyddiannus cyntaf gang rhyw yn Rotherham ers y sgandal camfanteisio’n rhywiol ar blant ddwy flynedd yn ôl.