Meddygfa Rashmi yn Hen Golwyn yw’r ddiweddara’ yn y gogledd i derfynu ei chytundeb â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Bydd contract y feddygfa, sydd â thua 1,200 o gleifion, yn dod i ben ym mis Ionawr. Ond mae disgwyl i’r feddygfa aros ar agor a pharhau i drin cleifion tra bod y broses yn mynd rhagddi.
Fe wnaeth meddygfa Llys Meddyg yng Nghonwy ddirwyn cytundeb â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ben ar 31 Hydref ac mae’n dilyn penderfyniadau tebyg gan feddygon teulu eraill.
I fynd i’r afael â’r broblem, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fis diwethaf y bydd meddygon teulu yn derbyn arian ychwanegol os byddan nhw’n dewis aros yng Nghymru i weithio.
Dan y cynllun – ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw’ – bydd y meddygon yn cael cyfanswm o £20,000 os byddan nhw’n cytuno i aros yn yr ardal lle gwnaethon nhw hyfforddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Betsi Cadwaladr: “Mae’r bwrdd iechyd yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod pawb yng ngogledd Cymru yn cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu.
“Dros y tri mis nesaf, byddwn yn gadael i’r cleifion ac aelodau eraill o’r boblogaeth leol wybod am ein cynlluniau a byddwn yn ymateb i unrhyw bryderon a chwestiynau.”