Mick Antoniw
Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi gwneud cais i ymyrryd yn apêl Llywodraeth Prydain yn erbyn rhoi’r hawl i San Steffan bleidleisio ar Brexit.

Yn ôl Mick Antoniw, mae’r penderfyniad yn codi cwestiynau ynghylch y syniad o Sofraniaeth Seneddol a allai effeithio ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu a phwerau Gweinidogion Cymru.

Y Cwnsler Cyffredinol yw arbenigwr cyfreithiol Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i benodi er mwyn rhoi cyngor i’r Llywodraeth.

Bwriad y Prif Weinidog Theresa May yw apelio i’r Goruchaf Lys yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys ddoe fod yn rhaid i Aelodau Seneddol roi eu sêl bendith cyn arwyddo Erthygl 50.

Yr effaith ar Gymru

Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn rhoi sylwadau am oblygiadau penderfyniad Llywodraeth Prydain i Gymru maes o law, ond mae wedi rhybuddio bod cwestiynau yn codi o ran cyfansoddiad y Deyrnas Unedig a’r fframwaith ar gyfer datganoli.

Mae hefyd yn codi cwestiynau dros y berthynas gyfreithiol a chyfansoddiadol rhwng y Cynulliad a Senedd San Steffan, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain a dros yr effaith gymdeithasol ac economaidd ar Gymru.

“Yn unol â’r pŵer a roddir imi o dan adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rwy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd i ymyrryd yn yr apêl arfaethedig gerbron y Goruchaf Lys,” meddai Mick Antoniw mewn datganiad.

Mae disgwyl iddo roi datganiad llafar i’r Cynulliad yr wythnos nesaf.