Mae cynnydd mewn prisiau eitemau hanfodol yn golygu bod gan deuluoedd lai o arian i’w wario ar bethau eraill.
Roedd gan deuluoedd yn y Deyrnas Unedig £201 o incwm tros ben i’w wario y mis diwetha’ – £9 yn fwy na’r un cyfnod y llynedd, yn ôl yr archfarchnad Asda.
Ond roedd y cynnydd yn is nag ers bron ddwy flynedd – tros y 22 mis diwetha’ mae’r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn wedi bod yn fwy na £10.
Chwyddiant ym mhrisiau eitemau hanfodol, a gododd 0.4% ym mis Medi, sydd wedi cyfrannu at y wasgfa, meddai’r archfarcnad – gyda chost dillad, esgidiau a thai ymhlith yr eitemau sydd wedi codi.
Mae pris petrol hefyd wedi codi 1.4% oherwydd bod gwendid y bunt.
Nwyddau mewnforio’n ddrutach
Gyda disgwyl i werth y bunt aros yn wan, mae’r adroddiad yn rhybuddio y bydd prisiau nwyddau sydd wedi eu mewnforio’n parhau i gynyddu dros y misoedd nesa’.
Yn groes i’r duedd, fe gwympodd prisiau bwyd a diodydd di alcohol ar gyfartaledd o 2.3% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.