Michael Sheen (Gage Skidmore CCA3.0)
Mae’r actor o Bort Talbot Michael Sheen wedi rhybuddio y bydd llai o bobol o gefndiroedd cyffredin yn cael cyfle yn y diwydiant theatr a ffilm.

Ac mae wedi dweud na fyddai ef ei hun wedi gallu dilyn gyrfa yn y maes o dan yr amgylchiadau heddiw.

Wrth siarad â chynulleidfa mewn digwyddiad yng nghanol Llundain ddoe, dywedodd fod cyfleodd i gael troed yn nrws y diwydiant yn diflannu i actorion o gefndiroedd di-fraint.

Trwy’r ysgol ac mewn theatr leol y cafodd ef ei ddenu at actio cyn ennill grant i dalu am ei gwrs mewn ysgol ddrama.

‘Troi mewn cylchoedd’

“Mae’r theatr yna wedi colli ei chyllid erbyn hyn ac dyw’r ysgol yna ddim hyd yn oed yno rhagor. Sut ar y ddaear ydyn ni’n mynd i gael pobl newydd o gefndiroedd llai breintiedig?” meddai.

“Mae ein diwylliant yn sgwrs. Mae pob un ohonon ni’n cael sgwrs gyda’n gilydd. Heb profiadau amrywiol, r’yn ni’n troi mewn cylchoedd.”

Gwnaeth ei sylwadau mewn cyfweliad sy’n edrych ar fywydau a gyrfaoedd y rhai sydd wedi eu henwebu am Wobrau Ffilm Annibynnol Prydain (BIFA).

Llai’n astudio Drama yng Nghymru

Fe ddaeth tystiolaeth i gefnogi safbwynt Michael Sheen gyda’r newyddion fod Drama’n un o’r pynciau sy’n colli poblogrwydd yn ysgolion Cymru, gyda llai o ddisgyblion yn sefyll arholiadau TGAU yn y pwnc.

Mae’r cwmni arholi CBAC yn dweud bod ysgolion yn rhoi mwy o sylw i’r pynciau gorfodol, megis Mathemateg, Saesneg a Chymraeg.

Yn ôl Prif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce, ar Radio Wales y pynciau sydd wedi diodde’ fwya’ yw Ffrangeg, Almaeneg a Dylunio a Thechnoleg.