Mae perchennog llun o Dylan Thomas a’i wraig, Caitlin, yn mynd â thri sefydliad i’r llys am ddefnyddio’r ffotograff heb ganiatâd.
Mae’r Uchel Lys yn Llundain heddiw’n gwrando achos y dyn busnes, Haydn Price, sy’n hawlio costau oherwydd i gyrff ledled y byd dorri rheolau hawlfraint.
Un ohonyn nhw yw Croeso Cymru, sy’n hybu twristiaeth yng Nghymru.
Awgrymodd barnwr yr achos, John Behrens, fod y ffotograff o’r bardd enwog, a fyddai wedi bod yn 102 heddiw pe bai dal yn fyw, a’i wraig, wedi’i dynnu yn fuan wedi iddyn nhw briodi.
Yn ôl John Behrens, mae Croeso Cymru wedi gwadu’r honiadau yn eu herbyn.