Heddlu'r Alban
Mae dau swyddog yr heddlu mewn cyflwr difrifol yn yr Alban ar ôl cael eu taro’n fwriadol gan gar.
Mae’r ymosodiad yn cael ei drin fel ymgais i lofruddio wedi i’r dyn a’r ddynes oedd yn ymateb i alwad yn Glasgow gael eu taro gan gar ddydd Sul.
Cawsant eu galw i ardal Drumchapel tua 11.15 y bore dydd Sul ac fe wnaethant ofyn i gar stopio er mwyn siarad â’r rhai oedd ynddo.
Yna, fe wnaeth y gyrrwr ddechrau bacio’r car a tharo’r ddau swyddog.
Yn ôl heddlu’r Alban, mae dynes 30 oed yn derbyn gofal dwys a’r dyn 31 oed yn parhau yn yr ysbyty.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Hylands, “mae ein hymchwiliadau hyd yn hyn wedi dangos bod Nissan Qashqai glas wedi’i weld ar y safle adeg y digwyddiad. Mae cerbyd tebyg i’r disgrifiad hwnnw wedi’i ganfod wedi’i ddifrodi’n wael gan dân yng ngerddi Lennox, Scotstoun.”
Mae’r heddlu yn ceisio cadarnhau mai dyna’r union gerbyd ac maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101.