Mae Llywodraeth Prydain wedi synnu economegwyr trwy fenthyg swm uwch na’r disgwyl, sef £10.6 biliwn, y mis diwethaf.
Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) bod benthyciad net y sector cyhoeddus wedi codi o 14.5% – neu £1.3 biliwn – ym mis Medi, o’i gymharu â’r un mis y llynedd.
Er hyn, mae bencythiadau’r Llywodraeth yn y flwyddyn ariannol hyd yn hyn wedi syrthio i £2.3 biliwn i £45.5 biliwn o’i gymharu â’r llynedd.
Mae’r SYG yn dweud bod benthyciad net y sector cyhoeddus, heb gynnwys banciau, yn £1.627.2 biliwn erbyn hyn – sy’n cyfateb a 83.3% o gynnyrch domestig gros (GDP).