Mae pedwar o bobol wedi’u harestio wedi noson o gythrwfl yng Nghasnewydd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 8.30yh nos Iau wedi adroddiad o gwffio ar Commercial Road.
Mae bachgen 13 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar; mae dyn 20 oed yn y ddalfa wedi’i amau o dorri amodau gorchymyn, fel y mae bachgen 16 oed a merch 17 oed.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn bethau prin iawn yng Nghasnewydd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent, “ond rydyn ni’n benderfynol o ddwyn y rheiny sy’n gyfrifol i gyfraith.
“Mae plismyn yn plismona’r ardal dan sylw, felly os oes gan unrhyw aelod o’r cyhoedd bryderon, mae modd iddyn nhw gael gair â’r swyddogion.
“Mae’r math yma o ymddygiad yn hollol annerbyniol, a dydyn ni ddim yn mynd i’w dderbyn.”