Cartref Elizabeth Edwards a'i merch Katie yn Spalding, lle cafodd y ddwy eu llofruddio Llun: Chris Radburn/PA Wire
Mae merch 15 oed wedi ei chael yn euog o lofruddio mam a merch mewn gweithred dreisgar yn Spalding, Swydd Lincoln fis Ebrill y llynedd.
Cafodd Elizabeth Edwards, 49, a’i merch 13 oed, Katie Edwards, eu trywanu yn eu gyddfau a’u tagu a chlustog wrth iddyn nhw gysgu yn eu cartref.
Roedd y ferch 15 oed, na ellir ei henwi oherwydd ei hoed, wedi cynllwynio’r llofruddiaethau gyda’i chariad pan oedden nhw’n 14 oed. Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Nottingham ei bod hi’n honni ei body n dioddef o broblemau iechyd meddwl, ac nad oedd hi’n medru gwneud penderfyniadau rhesymol.
Roedd ei chyn-gariad wedi pledio’n euog i’r llofruddiaeth cyn i’r achos gychwyn.
Ar ôl y llofruddiaethau, fe wnaeth y ddau gariad – sy’n cael eu hystyried fel y cwpwl ieuengaf ym Mhrydain i’w cael yn euog o lofruddiaeth – rannu bath, cael rhyw a gwylio ffilmiau Twilight. Roedden nhw hefyd wedi ystyried lladd eu hunain.
Roedd y ferch 15 oed wedi pledio’n euog i ddynladdiad ond yn ddieuog i lofruddiaeth.
Mae’r ddau yn wynebu cael eu cadw am gyfnod amhenodol mewn canolfan i droseddwyr ifanc, sy’n gyfystyr a dedfryd oes yn y carchar i oedolyn.
Fe fyddan nhw’n cael eu dedfrydu fis nesaf ac fe fydd y barnwr hefyd yn penderfynu a ddylai’r ddau gael eu henwi mewn gwrandawiad wedi hynny.