Llun: Shelter
Mae pedwar o bob 10 o bobl yng ngwledydd Prydain yn byw mewn cartrefi sydd ddim yn cyrraedd y safonau byw derbyniol, meddai Shelter.

Yng Nghymru mae’r ffigwr yn 50%.

Mae’r elusen wedi datblygu “safon byw ar gyfer cartrefi”, sydd a’r bwriad o fesur yr hyn sy’n gwneud cartref yn dderbyniol.

Mae ymchwil wedi darganfod bod un ymhob pedwar o bobl (27%) yn is na’r safon oherwydd y gost uchel, tra bod un ymhob pump (18%) yn byw mewn cartrefi sy’n annerbyniol oherwydd amodau gwael, gan gynnwys problemau gyda thamp a pheryglon diogelwch.