Y ffilm fer Balcony, enillydd Gwobr Iris
Mae ffilm am dyndra hiliol a mewnfudwyr wedi creu hanes yng Ngŵyl Iris yng Nghaerdydd.
Enillodd ‘Balcony’ brif wobr yr ŵyl a’r wobr am y ffilm fer orau – y tro cyntaf erioed i ffilm ennill y ddwy wobr yn yr un flwyddyn.
Mae’r ffilm wedi’i gosod o fewn cymuned sy’n frith o densiwn hiliol, ac mae’n cylchdroi o gwmpas merch sy’n cwympo mewn cariad â mewnfudwr.
Cafodd ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Toby Fell-Holden, a’i chynhyrchu gan Tom Kimberley ac Ali Mansuri.
Mae Charlotte Beaumont a Genevieve Dunne hefyd yn ymddangos yn y ffilm.
Mae’r ffilm, sydd wedi’i hariannu gan Film London, eisoes wedi cyrraedd rhestr hir yr Oscars yn 2017.
Mae wedi cael ei dangos mewn nifer o wyliau ffilm ar draws y byd, gan gynnwys yr Eidal, Michigan a Melbourne.
Mae’r enillydd yn derbyn £30,000 – y wobr ariannol fwyaf yn y byd ar gyfer ffilmiau LGBT – sy’n cynorthwyo gyda phrosiectau’r dyfodol.
Bydd yr enillydd hefyd yn cael gwahoddiad i fod ar banel beirniad y wobr y flwyddyn nesaf ac am eu bod wedi ennill y wobr am y ffilm fer orau hefyd, byddan nhw’n derbyn £20,000 ychwanegol i weithio gyda chwmni Pinewood.
Yr ŵyl
Mae Gŵyl Iris, sy’n ddathliad o ffilmiau LGBT, ymhlith y 50 gŵyl ffilm fwyaf yn y byd yn ôl cylchgrawn Movie Maker, ac mae hi wedi cael ei huwchraddio gan BAFTA i fod yn ŵyl rhestr ‘A’ – yr un statws â Cannes a Sundance.
Mae gan yr ŵyl 25 o bartneriaid mewn 19 o wledydd, ac mae’n cael ei chefnogi gan Sefydliad Michael Bishop.
Hyd yn hyn, mae Gwobr Iris wedi bod yn fan cychwyn i saith o wneuthurwyr ffilm, ac mae prosiect yr wythfed enillydd ar y gweill.
Mae’r ffilmiau wedi cael eu dangos dros y penwythnos mewn tri lleoliad – Chapter, Cineworld a gwesty Park Inn, lle cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal.
Cafodd y seremoni ei chyflwyno gan Matt Lissack o Capital FM, a’r Arglwydd Glendonbrook gyflwynodd y brif wobr.