Mae’r chwilio am weddillion bachgen bach 21 mis oed aeth ar goll ar ynys Kos yn 1991 wedi dod i ben.

Roedd yr heddlu wedi bod yn palu ar yr ynys yn y gobaith o ddod o hyd i dystiolaeth i egluro diflaniad Ben Needham chwarter canrif yn ôl.

Daeth y chwilio i ben ar ôl tair wythnos o balu o’r newydd.

Roedd Ben, oedd yn hanu o Sheffield, ar wyliau gyda’i deulu pan aeth ar goll.

Roedd yr heddlu wedi bod yn gweithredu o’r newydd ar sail tystiolaeth gan yrrwr JCB ei fod e’n gweithio ar y safle ar y diwrnod yr aeth Ben ar goll.

Bu farw’r gyrrwr y llynedd.

Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog y byddan nhw’n gwneud datganiad ddydd Llun.

Dywedodd mam Ben yr wythnos diwethaf na allai’r teulu barhau i fyw heb wybod beth ddigwyddodd i’w mab.