Mae cyn-filwr sy’n wynebu cyhuddiad o lofruddio wedi amddiffyn ei benderfyniad i ladd milwyr o Irac mewn modd “trugarog”.
Mae’r Sarjant Colin Maclachlan, 42, wedi datgelu mewn llyfr iddo saethu dau neu dri o filwyr yn farw yn ystod rhyfel Irac yn 2003.
Ond fe ddywedodd fod y milwyr yn sgrechian mewn poen ac yn “ymbil” ar y milwyr i’w saethu.
Mae lladd milwyr mewn modd trugarog yn anghyfreithlon yn ôl cyfraith y DU.
Ond mae Maclachlan, sy’n hanu o Gaeredin, yn dweud bod y digwyddiad yn dangos “realiti” rhyfel.
“Byddwn i’n hapus i fynd i’r carchar, os ydych chi’n credu fy mod i wedi gwneud rhywbeth o’i le,” meddai. “Ond dylai pobol roi eu hunain yn fy lle i yn gyntaf. Cerddwch yn fy esgidiau i, ac yna fe gewch chi fy marnu.”
Mae’r hanes yn cael ei adrodd mewn pennod gan Maclachlan, ‘Handling The Dirty Work’ yn y llyfr ‘SAS Who Dares Win: Leadership Secrets From The Special Forces’.
Dywedodd nad oedd e wedi “mwynhau” lladd y milwyr, ond mai dyna’r peth gorau i’w wneud o ystyried eu hanafiadau.
“Doeddwn i ddim am iddyn nhw ddioddef rhagor,” meddai.
Cafodd ymchwiliad ei lansio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn cyn i’r llyfr gael ei gyhoeddi, ac fe gafodd Maclachlan wybod yr wythnos diwethaf y gallai wynebu cyhuddiadau.