Mae bachgen 15 oed wedi cyfaddef llofruddio mam a’i merch.

Cafwyd hyd i gyrff Elizabeth Edwards, 49, a’i merch 13 oed, Katie, mewn eiddo yn Spalding, Swydd Lincoln ar Ebrill 15 eleni.

Mae merch 15 oed, na ellir cyhoeddi ei henw am resymau cyfreithiol, hefyd yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Nottingham ar ddechrau gwrandawiad y mae disgwyl iddo barhau am wyth diwrnod.

Mae’r rheithgor wedi clywed bod y ferch yn cyfaddef dynladdiad Elizabeth Edwards a Katie ond yn gwadu eu llofruddio.

Roedd y bachgen wedi cyfaddef dau gyhuddiad o lofruddio ddydd Llun.

Roedd y ddau blentyn yn 14 oed adeg y llofruddiaethau.