Steven Woolfe yn honni iddo gael ei daro
Mae profion wedi dangos nad yw’r cleisiau ar wyneb Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP Steven Woolfe yn awgrymu iddo gwympo na chael ffit yn unig, meddai.

Cafodd Woolfe ei gludo i’r ysbyty yn dilyn ffrwgwd â’i gydweithiwr yn UKIP, Mike Hookem.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod canfyddiadau’r profion meddygol yn dra gwahanol i adroddiadau’r wasg.

Mae Hookem yn gwadu iddo daro Woolfe, ac mae lle i gredu ei fod e’n ceisio cyngor cyfreithiol, yn ôl Sky News.

Dywedodd Hookem wrth PA: “Mae hynny’n gwbl anghywir. Wnes i ddim cyffwrdd ag e, ei daro fe, ei bwnio fe, ei slapio fe nac unrhyw beth arall dw i wedi cael fy nghyhuddo o’i wneud.”

Dywedodd Hookem fod y ffrae yn tarddu o waharddiad Woolfe rhag sefyll fel ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Bryd hynny, meddai Hookem, awgrymodd Woolfe y dylai’r ffrae barhau “tu allan” i’r ystafell.

Dywedodd Hookem fod Woolfe wedi “cwympo trwy ddrws”.

Yn ôl Woolfe, fe gafodd ei daro gan Hookem, gan achosi iddo daro’i ben yn erbyn ymyl y drws.

Mae lle i gredu bod ymchwiliad mewnol i’r digwyddiad ar y gweill, ac y gallai hynny atal Woolfe rhag sefyll am yr arweinyddiaeth yn y dyfodol.

Mae’r Senedd Ewropeaidd hefyd yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad a allai arwain at waharddiad a cholli treuliau.