Mae’r heddlu yn yr Almaen yn chwilio am ddyn 22 oed o Syria mewn perthynas â chynllwyn i ffrwydro bom yn Chemnitz.

Cafodd cyrch ei gynnal ar fflat lle’r oedd Jaber Albakr o Ddamasgus yn aros, ond wnaeth yr heddlu ddim dod o hyd i arfau na ffrwydron.

Cawson nhw gudd-wybodaeth am y cynllwyn honedig nos Wener.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau o’r dyn maen nhw’n chwilio amdano fe, ac wedi apelio am wybodaeth.

Dydy hi ddim yn glir eto am ba hyd mae e wedi bod yn yr Almaen.

Ond fe gafodd 890,000 o geiswyr lloches o Syria eu derbyn i’r Almaen y llynedd.