Mae’r heddlu yn yr Almaen yn chwilio am ddyn sy’n cael ei amau o gynllwynio ymosodiad brawychol.

Maen nhw wedi bod yn chwilio fflat yn Chemnitz, ond mae lle i gredu nad ydyn nhw wedi dod o hyd i ffrwydron nac arfau.

Fe gawson nhw gudd-wybodaeth gan yr awdurdodau nos Wener ynghylch ymosodiad honedig.

Ni chafodd unrhyw un ei ddarganfod yn y fflat, ac mae’r chwilio am y dyn yn parhau.

Mae’r diogelwch yn y wlad yn dynn yn dilyn sawl ymosodiad dros yr haf, gan gynnwys y gyflafan mewn canolfan siopa ym Munich.