Mae o leiaf 11 o eithafwyr Islamaidd wedi cael eu lladd gan yr awdurdodau yn Bangladesh.

Cawson nhw eu lladd yn Gazipur ger y brifddinas Dhaka, yn ôl yr awdurdodau.

Roedden nhw’n aelodau o’r Jumatul Mujahedeen Bangladesh (JMB).

Mae lle i gredu eu bod nhw’n gyfrifol am gyfres o ymosodiadau diweddar, gan gynnwys yr un yn Dhaka ar Orffennaf 1 pan gafodd 20 o wystlon eu lladd mewn bwyty.

Yn ystod y cyrchoedd, cafodd nifer o arfau eu darganfod, gan gynnwys dryllau, bwledi a chyllyll.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio’r cyfrifoldeb am yr ymosodiad diweddaraf, ond mae hynny’n cael ei wfftio gan yr awdurdodau, sy’n benderfynol mai’r JMB oedd yn gyfrifol.