Syr Norman Bettison
Mae un o’r plismyn oedd yn ganolog yn nhrychineb stadiwm pêl-droed Hillsborough yn 1989 ar fin cyhoeddi ei hunangofiant yn adrodd ei fersiwn o o’r hanes.
Dywed Norman Bettison, cyn-bennaeth Heddlu Glannau Mersi oedd yn blismon gyda Heddlu De Swydd Efrog adeg y trychineb, ei fod e’n “fwch dihangol” a’i fod e wedi cael ei drin yn “annheg” yn sgil Hillsborough.
Bydd yr elw o werthiant y gyfrol Hillsborough Untold, sy’n cael ei gyhoeddi fis nesaf, yn mynd i elusennau.
Yn ystod y cwest i farwolaeth 96 o gefnogwyr Lerpwl ar ddiwrnod gêm y clwb yn erbyn Nottingham Forest yn Sheffield, fe wadodd Bettison y canlynol:
* ei fod yn aelod o “uned bropaganda ddu”
* ei fod e wedi dweud wrth fyfyrwyr ar gwrs busnes fod yr heddlu’n bwriadu rhoi’r bai am Hillsborough ar y cefnogwyr – roedd myfyriwr wedi honni iddo ddweud hyn wrtho yn ystod sgwrs
* ei fod e wedi celu ei ran yn Hillsborough wrth wneud cais am swydd Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi
* mai ei swyddogaeth yn ystod cwest Hillsborough oedd pardduo cefnogwyr
* ei fod e wedi addasu datganiadau plismyn am drychineb Hillsborough a bod yr heddlu wedi beio’r cefnogwyr mewn ymgais i dynnu sylw oddi arnyn nhw eu hunain
Wrth ddisgrifio’i resymau tros lunio’r gyfrol, dywed Bettison nad yw am i “yrfa ddeugain mlynedd gael ei diffinio gan gyhuddiadau ffals”.
Galwodd ar ddarllenwyr i fynd at y llyfr “gyda meddwl agored”.