Jonathon Pengelly a Polly
Mae dyn o Gaerdydd wedi dweud bod helpu dynes ddigartref gafodd ei hwfftio gan fwyty McDonald’s yn y brifddinas wedi ei “newid am y gorau”.

Gwrthododd y gadwyn fwyd Americanaidd roi dŵr i’r ddynes fore dydd Sul, ond roedd Jonathon Pengelly ar noson allan yn y brifddinas pan welodd y ddynes – Polly – yn cael ei throi i ffwrdd.

Ar ei dudalen Facebook, mae wedi disgrifio’r digwyddiad fel un “ffiaidd”, ac mae’r sylw wedi cael ei hoffi gan fwy na 180,000 o weithiau a’i rannu dros 40,000 o weithiau.

Ar ôl cynnig prynu bwyd iddi, dywedodd fod Polly wedi archebu un byrgyr caws – er ei fod e wedi rhoi rhwydd hynt iddi brynu gymaint ag y mynnai ei gael. Fe brynodd ragor o fwyd iddi ac eistedd gyda hi i gyd-fwyta.

Mewn datganiad i bapur newydd yr Independent, un o’r papurau Llundeinig sydd wedi codi’r stori am Jonathon Pengelly, dywedodd McDonald’s fod nifer o bobol wedi cael eu gwahardd ganddyn nhw am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Maen nhw’n wfftio honiadau eu bod nhw’n gwahardd pobol ddigartref rhag mynd i mewn i’w bwytai.

‘Gweithred fach o garedigrwydd’

Ar ôl mynd â Polly a’i ffrind am fwyd, aeth Jonathon Pengelly â’r ddwy yn ôl i’w gartref i gael cawod a brwsio’u dannedd.

Dywedodd fod ei “weithred fach o garedigrwydd” wedi costio oddeutu £20,

Ychwanegodd eu bod nhw wedi cael sgwrs ffôn dros y dyddiau diwethaf a’i fod e wedi rhoi blancedi, clustogau a phecyn bwyd iddi.

Facebook

Yn ei neges ar Facebook, mae Jonathon Pengelly yn mynnu mai’r “cyfan wnaeth hi [Polly] ofyn amdano oedd cwpanaid o ddŵr poeth” yn MacDonald’s.

Dywedodd fod Polly wedi “gofyn am hawl dynol sylfaenol”, bod ateb y bwyty’n “ffiaidd” a bod y digwyddiad wedi torri ei galon.

“Allwn i ddim gadael y ddynes yma i fynd, roedd hi mor gynnes a mor hyfryd,” meddai wedyn, cyn cyfadde’ ei fod ef ei hun wedi “llefain”.

Wrth siarad yn uniongyrchol â phobol oedd “wedi cerdded heibio a chwerthin arnyn nhw”, dywedodd “Rwy’n eich casáu chi!” Dywedodd iddo gael sioc o ddarganfod pa mor wybodus oedd Polly a’i ffrind, a’u bod nhw’n “llawn bywyd a brwdfrydedd” er bod “ganddyn nhw ddim byd”.

“Dydi hi ddim yn costio dim i fod yn garedig, a gobeithio’n wir y bydd pobol yn rhannu hyn i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ledled gwledydd Prydain!” meddai Jonathon Pengelly wedyn, gan addo na fyddai Polly “fyth yn mynd heb fwyd nac yn oer byth eto”.

“Os gwelwch chi rywun ar y strydoedd, peidiwch ag edrych i lawr arnyn nhw fel pe baen nhw’n neb,” meddai. “Dydych chi ddim yn gwybod beth maen nhw wedi bod drwyddo fe. Meddyliwch amdanyn nhw!”