Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn i Gyngor Wrecsam gadarnhau y bydd gwersi nofio ar gael yn Gymraeg i bob plentyn sy’n dymuno eu cael nhw – nid i ddisgyblion ysgolion Cymraeg y sir yn unig.

Mae Freedom Leisure, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn y broses o “asesu a oes galw” am wersi nofio yn Gymraeg yn yr ardal, gan anfon holiadur allan i rieni yn gofyn a fyddai’n well ganddyn nhw wersi nofio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae dros 2,000 o blant yn ysgolion cyfrwng Cymraeg Wrecsam a miloedd mwy yn dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

“Dw i’n gobeithio bod yr holiadur yma’n cael ei anfon allan i rieni a gwarcheidwaid pob plentyn yn y sir a ddim jyst y rhai sy’n mynd i ysgolion Cymraeg,” meddai Aled Powell, cadeirydd Cell Wrecsam.

“Mae awr neu ddwy o Gymraeg o fewn muriau dosbarth yn unig yn annigonol ac mae llawer o bobol ifanc yn gadael yr ysgol dan anfantais annheg mewn gwlad ddwyieithog ble mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau ychwanegol sydd gan weithwyr dwyieithog.

“Rydym yn cydnabod bod Cyngor Wrecsam yn gwneud gwaith da mewn partneriaethau ag eraill i sicrhau rhai cyfleoedd i blant ddefnyddio’u Cymraeg tu allan i’r dosbarth.

“Mae gwersi nofio yn un enghraifft o weithgaredd ble gall bobol ifanc hefyd ymarfer a gwella eu gallu a hyder yn y Gymraeg tu allan i amgylchedd yr ysgol, ac mae’n hynod bwysig i ddysgwyr na sydd efallai efo’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg adref neu efo aelodau eraill o’r teulu.”