Mae swydd Sam Allardyce fel rheolwr tîm pêl-droed Lloegr o dan y chwyddwydr wrth i’r Gymdeithas Bêl-droed (FA) aros am ragor o fanylion am drafodaethau gafodd eu ffilmio’n gudd gan ohebwyr sy’n ymddangos fel ei fod yn gwneud sylwadau dadleuol.
Cafodd Allardyce ei benodi i’r swydd ym mis Gorffennaf gan ddisodli Roy Hodgson yn sgil perfformiad Lloegr yn Ewro 2016.
Ond mae’n ymddangos bod rôl Allardyce, 61, yn y fantol ar ôl iddo gael ei ffilmio’n gudd gan ohebwyr y Daily Telegraph.
Mae’r Press Association Sport yn deall bod yr FA wedi gofyn i’r papur newydd am y ffeithiau llawn ac yn aros am ymateb. Fe fydd y corff llywodraethol yn asesu’r sefyllfa ddydd Mawrth er mwyn penderfynu ar y camau nesaf.
Mae’r fideo yn ymddangos i ddangos Allardyce yn dweud wrth gynrychiolwyr o gwmni ffug yn y Dwyrain Pell sut i osgoi rheolau’r FA ynglŷn â throsglwyddo chwaraewyr.
Cafodd yr arfer dadleuol, a oedd yn golygu y gallai trydydd parti elwa pan fyddai chwaraewr yn cael ei werthu, ei wahardd gan yr FA yn 2008.