Timm van der Gugten
Cafodd y bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, Timm van der Gugten ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Flwyddyn Clwb Criced Morgannwg yn ystod cinio blynyddol Orielwyr San Helen ar gyrion Abertawe neithiwr.
Daw’r wobr wythnos ar ôl iddo dderbyn gwobr Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Gorau’r Bencampwriaeth gan y Clwb yn eu noson wobrwyo nhw yng Nghaerdydd.
Cipiodd van der Gugten 82 o wicedi ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn, gan gynnwys 56 o wicedi dosbarth cyntaf.
Yn ei gêm T20 gyntaf i Forgannwg, fe gipiodd e bedair wiced am 14 ar gae’r Oval yn erbyn Swydd Surrey, gan orffen y gystadleuaeth ugain pelawd gyda 19 o wicedi. Cafodd ei berfformiad ar yr Oval ei wobrwyo ar y noson hefyd.
Cipiodd van der Gugten, sy’n enedigol o Awstralia, saith wiced yng nghwpan 50 pelawd Royal London yn ogystal.
Fe gipiodd e bum wiced mewn batiad bum gwaith yn ystod y tymor, ac fe oedd ar frig tabl wicedi’r sir ar ddiwedd y tymor.
Ennill gemau’n bwysicach na pherfformiad unigol
Ar ddiwedd y noson yng ngwesty’r Towers, dywedodd van der Gugten wrth Golwg360: “Dwi wrth fy modd. Ges i ddechrau digon araf i’r tymor yn bersonol, ac fel aelod o’r tîm hefyd. Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i gipio nifer o wicedi ond yn amlwg y tîm yw’r peth pwysicaf.
“Mae’r tymor wedi bod yn un siomedig, os ydw i’n onest. Ond gobeithio y gallwn ni wella’r tymor nesaf, a dw i’n credu bod nifer o arwyddion da ar ddiwedd y tymor gyda rhai o’r bois ifainc sy’n dod drwodd.
“Weithiau, mae’n rhaid i chi fod yn lwcus. Ond bydden i’n rhoi pob set o bum wiced yn ôl tasen ni wedi gallu ennill mwy o gemau a chael bod ben arall y tabl.
“Mae’n gêm tîm ar ddiwedd y dydd felly yn bersonol, does dim ots gyda fi sut dw i’n gwneud yn bersonol. Bydden i’n fodlon ildio cant o rediadau pe bai’n golygu bod y tîm yn mynd ymlaen i ennill y gêm.
“Mae’n wych cael cipio wicedi ond byddai’n well gyda fi pe bai Morgannwg yn ennill neu’n cael gêm gyfartal os yw’n mynd i fod o fudd i ni.”
‘Arbennig o dda’
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft: “Mae Timm wedi cael tymor arbennig o dda.
“Doedd neb yn siŵr beth oedd e’n mynd i wneud yn ystod y tymor, ond mae e wedi dangos i bawb ei fod e’n foi arbennig o dda ac yn gricedwr arbennig o dda.”
Enillwyr y gwobrau’n llawn:
Chwaraewr Gorau’r Flwyddyn – Timm van der Gugten
Chwaraewr Gorau’r Ail Dîm – Jack Murphy
Chwaraewr Gorau Heb Gap – Owen Morgan
Cyfraniadau Arbennig:
Timm van der Gugten am ei bedair wiced am 14 yn ei gêm T20 gyntaf i Forgannwg yn erbyn Swydd Surrey ar gae’r Oval
Chris Cooke am gael pum daliad mewn gêm T20, sy’n record i’r sir
Colin Ingram am ei berfformiadau gyda’r bat a’r bêl mewn gemau undydd
Owen Morgan am ei ganred cyntaf i’r sir, yn erbyn Swydd Gaerwrangon
Kiran Carlson am ei ganred cyntaf i’r sir, y chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd y nod
Nick Selman am gario’i fat wrth daro canred yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen
Aneurin Donald am daro 234 ym Mae Colwyn. Roedd ei fatiad yn efelychu’r canred dwbl cyflymaf erioed mewn unrhyw gêm yn fyd-eang gan Ravi Shastri, gynt o Forgannwg
Mark Wallace am gipio naw daliad/stympiad ddwywaith yn ystod y tymor, gan efelychu record Colin Metson