Llun: PA
Mae cwmni archfarchnad Aldi wedi dweud y bydd yn buddsoddi £300 million i ailwampio ei siopau ar ôl cynnydd arall mewn gwerthiant, er bod elw’r cwmni wedi gostwng ychydig.
Fe fydd mwy na 100 o siopau yn cael eu hail-wampio erbyn 2017, meddai Aldi.
Ychwanegodd y cwmni o’r Almaen y byddai’n agor 70 o siopau newydd yng ngwledydd Prydain y flwyddyn nesaf fel rhan o’i gynlluniau i ehangu nifer yr archfarchnadoedd o 659 i 1,000 erbyn 2022.
Roedd gwerthiant y cwmni wedi cynyddu 12% i £7.7 biliwn yn 2015, gydag Aldi yn dyblu ei drosiant mewn tair blynedd.
Bu gostyngiad yn elw Aldi o 1.8% i £255.6 miliwn, gyda’r cwmni yn dweud bod hynny oherwydd “buddsoddiad mewn prisiau.”