Mae arolwg newydd yn awgrymu fod canlyniad y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn lladd y sector dechnolegol yng ngwledydd Prydain.
Mae’r arolwg gan fancwyr Magister Advisors yn dangos fod ansicrwydd wedi’i greu i’r diwydiant ers y bleidlais.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Magister Advisors, Victor Basta fod y canlyniad wedi cael effaith syth ar gwmnïau technolegol, gan honni fod cwmnïau meddalwedd penodol wedi gwneud penderfyniad yn syth ar ol y bleidlais i greu 100 o swyddi peirianyddol yn yr Almaen yn hytrach nag yn Llundain.
“Y lladdwr tawel ydi’r ansicrwydd sy’n cael ei greu gan Brexit a’r ansicrwydd yma y mae cwmniau yn gorfod wynebu rwan,” meddai Victor Basta.
“Tra bod Llywodraeth Prydain yn gwneud gwaith anrhydeddus yn gweithio ar gyflymder derbyniol, yn anffodus mae angen i gwmnïau technolegol weithio 100 gwaith yn gyflymach.
“Fe fydd nifer difesur o swyddi, a chynnydd yn y dyfodol, yn symud i fannau eraill o Ewrop erbyn i Erthygl 50 gael ei arwyddo,” meddai wedyn. “Hyd nes y bydd eglurder am natur Brexit, fe fydd y cwmnïau gorau yn gweld y gwaethaf ac yn gweithredu yn ôl yr angen.”
Fe ddywedodd Victor Basta fod y cyfyngiad ar fewnfudo, cynnydd mewn costau masnach ac arafwch mewn twf economaidd i gyd yn tanseilio’r diwydiant technoleg ar ôl Brexit. “Nid dadlau am aros yn yr Undeb Ewropeaidd ydw i yma,” meddai, “oherwydd fe allai weithio’n iawn.”