Mary Berry yn dweud Ta ta wrth y Bake Off
Mae un o feirniaid y gyfres deledu boblogaidd, The Great British Bake Off, wedi cyhoeddi heddiw na fydd yn ymuno â’r rhaglen ar ôl iddi symud i Channel 4 y flwyddyn nesaf.

Mewn datganiad, dywedodd Mary Berry ei bod wedi gwneud y penderfyniad er mwyn aros yn driw i’r BBC.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth y cyhoeddiad y bydd y gyfres yn symud o’r BBC i Channel 4 ar ôl i’r BBC fethu â sicrhau cytundeb newydd â’r cynhyrchwyr, Love Productions.

Roedd y gorfforaeth wedi cynnig £15 miliwn am gyfres newydd ond cynnig Channel 4 o £25 miliwn aeth â hi.

“Mae fy mhenderfyniad i aros gyda’r BBC yn dod o (fy) nheyrngarwch iddyn nhw gan eu bod wedi’m meithrin i a’r sioe, a oedd yn fformat unigryw a gwych o’r diwrnod cyntaf,” meddai datganiad Mary Berry.

“Rydw i’n drist dros y gynulleidfa sydd efallai ddim yn barod am newid, gobeithio y byddan nhw’n deall fy mhenderfyniad.

“Ffarwel i soggy bottoms”

Yn wahanol i’w gyd-feirniad, bydd Paul Hollywood yn ymuno â The Great British Bake Off ar Channel 4.

Dywedodd ei fod “wrth ei fodd” y bydd yn parhau fel beirniad ar y rhaglen a’i fod am “ddiolch i’r BBC a Mel a Sue am wneud ei gyfnod yn y babell yn un gwerthfawr a llawn hwyl.”

Mae cyflwynwyr y rhaglen, Mel Giedroyc a Sue Perkins, eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n symud i’r sianel.