Mary Berry, un o gyflwynwyr y Great British Bake Off
Mae’r gyfres Great British Bake Off yn symud i Channel 4 ar ôl i’r BBC ddweud na allai fforddio i gadw’r sioe.
Mae Channel 4 wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Love Productions sy’n cynhyrchu’r gyfres goginio boblogaidd.
Yn gynharach, fe gyhoeddwyd fod y BBC wedi colli ei gytundeb i ddarlledu’r sioe.
Mewn datganiad dywedodd y BBC eu bod wedi gwneud cynnig o £15 miliwn i gadw’r sioe ond bod cynhyrchwyr y gyfres eisiau £25 miliwn.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd a fydd Paul Hollywood a Mary Berry yn parhau i gyflwyno’r sioe ar Channel 4, ond mae Mel Giedroyc a Sue Perkins wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n symud i’r sianel.
Mae disgwyl i’r Bake Off gyntaf gael ei darlledu ar Channel 4 yn 2017 gyda fersiwn arbennig ar gyfer Stand Up To Cancer.
Wrth drydar ei hymateb dywedodd un o’r cyn-gystadleuwyr Beca Lyne-Pirkis, o Gaerdydd: “Dwi’n credu ein bod ni gyd angen paned o de a LOT o gacen ar ôl clywed y newyddion yma.. cyfnod trist. #GBBO”