Darlun o Roald Dahl yn y National Portrait Gallery, Llun: PA
A hithau’n ganmlwyddiant ers geni un o’r awduron plant mwyaf poblogaidd, mae cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yr wythnos hon.

Yn eu plith, fe fydd Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, yn dadorchuddio mainc arbennig sy’n ymdebygu at grocodeil mawr ym Mae Caerdydd dydd Mawrth, Medi 13, sef diwrnod geni Roald Dahl.

Yn ogystal, ag yntau’n enwog fel awdur fyddai’n dyfeisio geiriau newydd, mae rhai o’r geiriau hynny’n cael eu hanrhydeddu heddiw wrth eu rhoi ar gof a chadw yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen.

Mae’r geiriau hynny’n cynnwys Oompa Loompa, scrumdiddyumptious a human bean.

Mae mil o eiriau eraill hefyd yn cael eu hychwanegu at y geiriadur heddiw, gan gynnwys Moobs, term i ddisgrifio brest dynion a YOLO, acronym am You Only Live Once.

Diwrnod Roald Dahl

Cafodd Roald Dahl ei eni yn Llandaf ar 13 Medi 1916 gan fynychu ysgol y Gadeirlan y Brifddinas tan oedd yn naw oed.

Mae penwythnos o ddigwyddiadau a gweithdai i blant yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ac yng Nghaernarfon y penwythnos nesaf i nodi’r achlysur.