Y gorymdeithwyr y tu allan i Dy'r Cyffredin y prynhawn yma (llun: Chris Radburn/Gwifren PA)
Mae miloedd o brotestwyr wedi bod yn gorymdeithio ar hyd strydoedd Llundain y prynhawn yma yn galw am gryfhau’r cysylltiadau rhwng Prydain a gwledydd eraill Ewrop.

Cafodd Gorymdaith Ewrop ei lansio i roi pwysau ar y Llywodraeth i ohirio gweithredu’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae digwyddiadau tebyg wedi cael eu cynnal yng Nghaeredin, Birmingham, Rhydychen a Chaergrawnt.

Fe orymdeithiodd yr ymgyrchwyr o Hyde Park a thrwy Whitehall at Dŷ’r Cyffredin, lle bydd dadl ddydd Llun ynghylch a ddylai fod ail refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r ddadl ar ôl i ddeiseb ar-lein gasglu dros 4 miliwn o enwau yn galw am bleidlais o’r fath, ond mae’r Llywodraeth eisoes wedi gwrthod yr alwad.