Y Smiler yn Alton Towers Llun: Alton Towers
Mae ymwelwyr i Alton Towers wedi bod yn sownd ar atyniad lle bu damwain ddifrifol 15 mis yn ôl, gan anafu 16 o bobl.
Roedd 32 o ymwelwyr ar y Smiler pan ddaeth i “stop dros dro” ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu, meddai llefarydd.
Cafodd yr atyniad £18 miliwn yn Swydd Stafford ei stopio er mwyn i staff ymchwilio i adroddiadau bod rhywbeth wedi disgyn o un o’r cerbydau.
“Nid oedd yr ymwelwyr ar y reid mewn unrhyw berygl ac fe gawson nhw i gyd eu symud yn ddiogel ac yn brydlon gan y staff,” meddai llefarydd.
Fe fydd y Smiler yn parhau ynghau tra bod tîm technegol y parc yn ymchwilio i’r mater, ychwanegodd.
Ym mis Mehefin y llynedd, roedd cerbyd ar yr atyniad wedi taro yn erbyn cerbyd arall gan anafu pump o bobl yn ddifrifol.
Daeth ymchwiliad i’r casgliad mai “camgymeriad dynol” oedd ar fai.
Roedd perchennog y parc, Merlin Entertainments, wedi cyfaddef torri rheolau iechyd a diogelwch yn sgil y digwyddiad.