Mae dynes a phlentyn wedi cael eu lladd ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan gar a oedd yn cael ei erlid gan yr heddlu yn ne-ddwyrain Llundain.

Roedden nhw ymhlith criw o chwech o bobol a gafodd eu taro wrth i’r heddlu gwrso car oedd wedi cael ei ddwyn.

Mae lle i gredu bod y ddynes yn ei 30au neu ei 40au, a’r plentyn tua 10 oed.

Dywedodd llygad-dyst fod yr heddlu’n cwrso car BMW yn ardal Penge yn ystod y prynhawn, a bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar y car cyn taro’r teulu.

Mae lle i gredu bod dau o blant eraill wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad, a’u bod nhw wedi cael eu cludo i’r ysbyty.

Mae gyrrwr y car oedd yn cael ei gwrso wedi cael ei arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn cynnal ymchwiliad, ynghyd ag adran safonau Heddlu Scotland Yard.