Heddlu Sussex ar draeth Camber Sands ger Rye, dwyrain Sussex, lle bu farw pump o ddynion Llun: Gareth Fuller/PA Wire
Mae pump o ddynion wedi marw a chredir bod chweched person ar goll yn dilyn trasiedi arall ar draeth wrth i bobl fwynhau diwrnod poetha’r flwyddyn.
Roedd aelodau o’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys wedi ceisio achub tri o’r dynion ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion yn y dŵr ger traeth Camber Sands ger Rye, yn nwyrain Sussex tua 2.15yp ddydd Mercher.
Cafwyd hyd i ddau gorff arall neithiwr tua 8yh ac mae bad achub yr RNLI a gwylwyr y glannau yn chwilio’r môr am berson arall y credir oedd wedi cael ei weld yn y dŵr.
Dywed Heddlu Sussex eu bod nhw’n credu bod y pump fu farw yn Camber Sands yn eu harddegau hwyr neu 20au cynnar ac yn dod o ardal Llundain.
Mae 12 o bobl bellach wedi marw mewn llai nag wythnos wrth i bobl heidio i’r traethau ar ddiwedd gwyliau’r haf ac wrth i’r tymheredd godi i 33.9C (93F) yn Gravesend yng Nghaint.
Mae’r RNLI wedi annog pobl i fod yn ofalus yn y dŵr.