Rita King, a gafodd ei saethu'n farw mewn cartref gofal yn Walton-on-the-Naze, gan ei gwr Ronald King Llun: PA
Mae dyn 87 oed, sy’n dioddef o glefyd Alzheimer ac a saethodd ei wraig yn farw mewn cartref gofal, wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd mewn ysbyty seiciatrig.
Gwnaeth Ronald King saethu ei wraig, Rita, mewn ystafell deledu yng nghartref gofal De La Mer yn Walton-on-the-Naze yn Swydd Essex ar Ragfyr 28 y llynedd.
Roedd ei wraig yn dioddef o ddementia, ac mae’r cyflwr hefyd wedi effeithio ar ei allu yntau i wneud penderfyniadau, yn ôl tystiolaeth a gafodd ei chyflwyno i Lys y Goron Chelmsford.
Roedd King wedi gwadu llofruddiaeth mewn gwrandawiad blaenorol, ond fe blediodd yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll neu ar y sail ei fod wedi goroesi cytundeb hunanladdiad.
Dywedodd y barnwr fod y digwyddiad yn “drasiedi o bob ongl”.