Bad achub
Yn dilyn marwolaeth chwech o bobl ar draethau Prydain dros y penwythnos, mae’r RNLI wedi annog ymwelwyr i fod yn ofalus yn y dŵr wrth i’r tywydd braf  nesáu.

Fe fu farw chwech o bobl, gan gynnwys dynes a’i mab chwech oed, mewn cyfres o ddigwyddiadau ar wahân ar hyd arfordir y DU dros y penwythnos yn dilyn tywydd stormus a gwyntog.

Gyda disgwyl i’r tymheredd godi i 30C (86F) erbyn canol yr wythnos a rhagolygon am dywydd braf dros Ŵyl y Banc, mae’r RNLI wedi rhybuddio unwaith eto am y peryglon i’r rhai sy’n mentro i’r dŵr.

Dywedodd llefarydd eu bod yn annog pobl i fwynhau’r môr ond bod angen gwneud hynny’n ofalus. Maen nhw’n cynghori pobl i ymweld â thraethau sydd ag achubwyr bywyd ac i nofio yn y parthau diogel rhwng y baneri coch a melyn.

Fe fu farw Julie Walker, 37, a’i mab Lucas Walker, 6, yn yr ysbyty ar ôl ymdrech i’w hachub o draeth yn Aberdeen. Cafodd cyfanswm o bump o bobl eu tynnu o’r dŵr a’u cludo i Ysbyty Brenhinol Aberdeen.

Mae brawd Lucas, Samuel, a oedd wedi mynd i’r dŵr i geisio achub ei fam a’i frawd, yn gwella yn yr ysbyty, meddai’r heddlu.

Roedd Rudy Bruynius a’i wraig Lisinda a’u merch McKayla, 2, ar wyliau yng Nghernyw pan gawson nhw eu taro gan don fawr ar draeth Fistral.

Fe gadarnhawyd bod Rudy Bruynius wedi marw ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty ac mae ei ferch mewn cyflwr difrifol.

Roedd dau blentyn arall y teulu wedi llwyddo i ddringo ar y creigiau, meddai’r RNLI.

Mewn digwyddiad arall bu farw Joy Godfray, 31, ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio yn Jersey tua 8.30yh.

Cafodd dyn a oedd yn nofio gyda Joy Godfray ei achub gan aelodau o’r cyhoedd.

Yn ôl adroddiadau bu farw dyn 67 oed wrth syrffio ger arfordir Gorllewin Mersea yn Essex. Mae wedi cael ei enwi’n lleol fel David Baker, o Colchester, Essex.

Roedd chweched dyn, y credir oedd yn ei 50au, wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y dŵr ar draeth Sandbanks yn  Poole, Dorset.