Mae mwy o thunnell o gyffur cocên, gwerth mwy na £80m, wedi’i atal ar gwch oddi ar arfordir de Lloegr.

Mae tri dyn wedi’u harestio a’u cyhuddo wedi’r cyrch ar gwcn Bianca ger Falmouth, Cernyw. Fe ganfuwyd llond 50 o fagiau yn cynnwys y cyffur ar y cwch.

Mae perchennog a chapten y cwch, Michael McDermott, 67, a’i griw, Gerald Van De Kooij, 26, a David Pleasants, 57, wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Bodmin heddiw, wedi’u cyhuddo o fewnforio cocên.

Maen nhw ill tri wedi’u cadw yn y ddalfa, nes y byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Bryste ar Fedi 20.