Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn mewn man poblogaidd â thwristiaid yn Llundain.
Mae Hani Khalaf, 21, Eifftiwr heb gartre’ parhaol yng ngwledydd Prydain, wedi’i gyhuddo o lofruddio Jairo Medina, 62, a gafodd ei ganfod yn farw yn Hyde Park yn gynharach y mis hwn.
Roedd Mr Medina, gofalwr proffesiynol o Chelsea, wedi diodde’ ymosodiad, ond fe fethodd prawf post-mortem â dweud sut yn union y bu farw.
Mae Hani Khalaf wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron llys yr Old Bailey ddydd Mawrth.